Y Prosiect

Pennal 2050

Menter gymunedol dan arweiniad ffermwyr i ddod â phobl a natur at ei gilydd yn yr hirdymor i:

  • Gynyddu bioamrywiaeth drwy wella a chysylltu cynefinoedd
  • Mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • Annog cydnerthedd gwledig a gweithgarwch economaidd
  • Ymgysylltu â phreswylwyr i gymryd camau cadarnhaol i wella eu hamgylchoedd er mwyn eu hiechyd a’u lles eu hunain a lles cenedlaethau’r dyfodol drwy wirfoddoli ac ymuno mewn gweithgareddau cymunedol. Mae ein Ecowarcheidiaid iau yn yr ysgol yn plannu coed, yn dysgu sut y gall data mawr greu mapiau ar gyfer modelu newid a darganfod pa rywogaethau sy’n byw yn ein hardal.

Gallwch weld MAP o rai o’n gweithgareddau yma.

Mae ein prosiect wedi derbyn cyllid drwy’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Llywodraeth Cymru Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Dyma brif elfennau ein prosiect:

Eco-gamau – yn cynnwys plannu gwrychoedd a choed i ddarparu coridorau bywyd gwyllt. Rydym yn asesu ac yn monitro ein cyfalaf adnoddau naturiol – ein hasedau gwyrdd.

Dyfroedd clir – yn cynnwys lleihau erydiad pridd a dŵr i wella ansawdd dŵr.

Slo-Flo – yn cynnwys defnyddio dulliau rheoli adnoddau naturiol i leihau faint o ddŵr sy’n rhedeg i mewn i’r pentref yn ystod digwyddiadau glaw dwys a bygythiad llifogydd.

Rhosydd iach – yn cynnwys rheoli ein hucheldiroedd yn well trwy leihau rhedyn a defnyddio gwartheg yn ogystal â defaid i bori’r bryniau i annog bywyd gwyllt fel yr Hebog Llwydlas.

Ategir y mesurau hyn gan waith modelu cyfrifiadurol uwch i lywio ein gweithgareddau.

 

Trosglwyddo Gwybodaeth

Cyhoeddiadau

Dyma rai cyhoeddiadau i helpu i lywio prosiect Pennal 2050 a allai fod o ddiddordeb i ffermwyr, partneriaid y prosiect, trigolion ac ymwelwyr.

Newyddion y Prosiect

Cysylltwch

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Mauris tempus ligula viverra dui blandit mattis. Maecenas nec malesuada diam. Suspendisse vulputate turpis ac scelerisque tempor.