Y Celfyddydau

Dyma’r lle i drigolion Pennal ddangos eu doniau gyda phytiau byr o hanes lleol, barddoniaeth, ffotograffiaeth, gwaith celf ayb.

Er mwyn dechrau arni, dyma gerdd gan un o tîm CroesoPennal, ac mae’r person yma’n sicr y gallwch chi wneud yn well na hyn:

 

I LAWR I’R DDYFI
Clychau glas sy’n glogyn ar lannau
coetir cyntefig
ger pentref Pennal
Yma y troediodd Owain ac
ymdroellodd doethineb ei swyn
Goleuni brith sy’n cofleidio gobaith ym mreichiau crwm y
deri digoes
Cana’r aderyn du
Pob nodyn yn datseinio ac yn deffro
mil anadl ingol
rhyfelwyr,
yn sgubo heibio’r boncyffion mwsoglyd, dros
ŵyn newydd-anedig
I lawr i’r Ddyfi.

Yma erys areithiau’r Hen Senedd yn siffrwd
yn yr aer, fe’u cofir hefyd yn y
trefi
Sy’n gwybod
Mae’r iaith yn parhau…
Hanes a threftadaeth, cleddyf disglair
yn torri drwy’r blynyddoedd
yn galw i gof y Bardd a’i gariad,
ar goll yn nŵr yr afon ac yn gorwedd nawr
dan yr eglwys gadwynnog wrth i’r
glychsain brudd ganu uwchlaw ac islaw ysgubiadau’r tonnau.

Y cerrig beddi sy’n olrhain achau
teuluoedd,
Oedd yn byw bryd hynny, ac sy’n gorwedd mewn rhes,
ffermydd a fu sy’n ddigyfnewid
lle mae bechgyn yn ateb i’r un enwau
â Thywysogion hanes.

Yma, yn clymu popeth ar draws y canrifoedd
Mae’r dirwedd – yn siapio chwedlau,
Yn fythol newid, a gwthio, a symud
Cewri tyner
I lawr i’r Ddyfi
Ac Ymlaen ac Ymlaen…
HMM2020

Nodiadau: Rhyfelwyr Owain Glyndwr yma ar gyfer y Senedd ddiwethaf, ond hefyd yn sôn am Frwydr ‘Cae Pennal’, rhwng Thomas ap Gruffydd ap Nicholas a William Herbert II, Iarll Penfro. Digwyddodd y frwydr rwy dro rhwng 1472 a 1474; bu farw Thomas o ganlyniad i’w anafiadau, a’r si yw ei fod wedi ei gladdu yma. Y Bardd a’i gariad – syrthiodd Lleucu Llwyd mewn cariad gyda’r bardd ifanc, Llywelyn Goch, mab Meurig Hen, ond nid oedd ei thad yn cefnogi’r garwriaeth, felly fe wnaeth bopeth o fewn ei allu i wahanu’r cariadon ifanc (gweler y dudalen Treftadaeth). Ond arweiniodd ei weithredoedd at drychineb. Clychau – yr eglwys ym Mhennal, uwch ben y dŵr, a chlychau Cantre’r Gwaelod dan y dŵr ger Borth.

 

 

 

 

 

Ffotograffiaeth

 

Ffotograffiaeth arddangos blodau: Grace Crabb

 

Ffoto isod: Pennal 2050

Celf a chrefft/Natur

O Sioe Pennal


Ffwng ym Mhennal

Ffotograffiaeth: David Smith. Pili plal  domen oren, Damsel coch yn hedfan a chwilen ffwng.

Cysylltwch

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i gyrraedd tîm Croeso Pennal