Trigolion

Dyma ychydig o wybodaeth am rai o’n cyfleusterau a’n gweithgareddau ar gyfer drigolion, neu’r rhai sy’n ystyried symud i’r pentref.

Yr Ganolfan

Lleolir Canolfan Pennal yng nghanol y pentref, yn gyfleus i Fachynlleth a gweddill dyffryn Dyfi. Mae’r Ganolfan yn adeilad ar ei newydd wedd wedi’i addasu o Gapel Carmel a’r Festri cyfagos.

Mae’r adeilad newydd yn cynnig Neuadd, ystafell bwyllgor (y gellir ei rhannu’n llai i wneud ystafell fechan breifat) a chegin gynhwysfawr. Ceir cyfleusterau modern drwyddi a lle addas i gynnal nifer o wahanol weithgareddau ar gyfer busnes a’r gymuned.

Ewch i www.canolfanpennal.co.uk am fanylion pellach.

Mae cyngor cymuned bywiog y pentref yn cyfarfod yng Nghanolfan Pennal. Darllenwch am ei gyfarfodydd diweddaraf yma.

 

Ysgol Gynradd

Ysgol Gynradd Pennal 
Pennal
Machynlleth
Gwynedd
SY20 9JT

24 o ddidsgyblion rhwng 3-11 mlwydd oed

Helen Louise Newell Jones – Pennaeth 

Ffederasiwn Ysgol Dyffryn Dulas Corris ac Ysgol Pennal

(01654) 791 225 / (01654) 761 622

Mae’r ysgol hon yn rhan o ffederasiwn gydag Ysgol Gynradd Dyffryn Dulas yng Nghorris. Mae Ysgol Dyffryn Dulas Corris Pennal yn cynnig amgylchedd hapus sy’n canolbwyntio ar y disgyblion, ac amgylchedd tawel ar gyfer dysgu. Cafodd yr ysgol ei graddio yn Dda ar draws pob maes yn yr arolwg Estyn diweddaraf.

Mae gan yr ysgol gysylltiadau gwych gyda’r gymuned leol ac mae gwersi nofio yn cael eu cynnal ym mhwll Macdonal Resort and Spa sydd o fewn pellter cerdded.

Mae gweithgareddau y tu allan i’r ysgol yn cynnwys clwb garddio wythnosol yn dymhorol, ac mae’r rhieni’n gefnogol iawn o’r ysgol. Mae’r gymuned yn aml yn codi arian tuag at elusennau ac offer newydd.

Mae pentref Pennal, sydd â golygfeydd gwych o aber Dyfi a’r bryniau, wedi’i leoli chwe milltir o Aberdyfi a phedair milltir o Fachynlleth

 

Sioe Pennal

Mae Sioe Pennal yn denu cannoedd o ymwelwyr dros benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst.
Mae’r sioe amaethyddol glasurol hon yn cynnwys ystod o adrannau o grefftau i ddofednod, o ddefaid i flodau ac yn cael ei chynnal yn Neuadd y Pentref a chaeau cyfagos trwy garedigrwydd tirfeddianwyr Partneriaeth Pennal.
Mae hwyl ar gael i bobl o bob oed gyda digwyddiadau chwaraeon ac amrywiaeth o stondinau gan gynnwys gemau teuluol.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys cystadleuaeth gneifio boblogaidd yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau arddangos.
Mae’r sioe yn cael ei chynnal diolch i waith caled tîm o wirfoddolwyr selog ac ewyllys da busnesau lleol. Ewch i Pennal i brofi’r digwyddiad gwych hwn.

Taith Gerdded Gymunedol

 

Mae Taith Gerdded Gymunedol Pennal yn dod yn ddigwyddiad blynyddol rheolaidd.

Mae’r Daith Gerdded yn codi arian ar gyfer ysgol y pentref ac yn cael ei chynnal gyda chefnogaeth tirfeddianwyr lleol Partneriaeth Pennal.

Mae tua 100 o bobl yn cymryd rhan ac yn cerdded ar draws y dirwedd wych gan fwynhau’r cwmni a’r golygfeydd gan gymryd saib bob hyn a hyn am luniaeth.

Ar gyfer y daith ddiwethaf, gofynnodd Pennal 2050 i ecolegydd lleol ymuno, gan weithio gyda phlant a’u teuluoedd i adnabod adar a phryfed yn ystod y daith.

Darparodd y prosiect rwydi gloÿnnod byw a photiau lliwgar er mwyn gallu dal pryfed am eiliad i’w hastudio wrth i’r ecolegydd eu henwi ac egluro ychydig am eu bywydau a’u pwysigrwydd i fioamrywiaeth yr ardal unigryw hon o Gymru.