Yng Nghoetir Pennal, mae cynllun arafu’r llif (Slo-Flo), sy’n defnyddio adnoddau naturiol fel malurion pren i geisio lleihau llif y dŵr, yn cael ei gynllunio. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddarparu mwy o gynefinoedd i anifeiliaid, adar a phryfed drwy gadw glaw yn nes at ble mae’n syrthio.
Sut bydd hyn yn cael ei wneud? Bydd cyfres o bron i 60 o fesurau’n cael eu cymryd gan Bartneriaeth Pennal ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru – mae’r rhain yn cynnwys 19 o geuffosydd i ddargyfeirio dŵr oddi wrth gyrsiau dŵr ac i’r tir cyfagos, ac 20 strwythur malurion pren yn nentydd Cwm Dwr a Chwm
Brechiau yn ogystal â chamau tebyg ar dir amaethyddol.