Prosiect Pennal 2050 yn lansio a chafodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig gyfle i weld y gwaith a’r gweithgareddau arfaethedig yng nghwmni Cadeirydd Partneriaeth Pennal, Rhys Parry, a’r Ysgrifennydd, James Brunton. Mae ein prosiect wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae dull cydweithredol Pennal 2050 yn dod â theuluoedd fferm a phreswylwyr ynghyd i weithio’n agos gyda busnesau, asiantaethau a sefydliadau amgylcheddol i geisio datrys heriau, megis effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ar raddfa tirwedd. Darllenwch fwy am y prosiect yn ein cylchlythyr cyntaf.