Gan Gareth Thomas, Ecolegydd ECHOES
MAE Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn adar diddorol iawn ac mae’r mwyafrif llethol ohonynt yn treulio’r gaeaf ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae’r gwyddau’n bridio yng ngorllewin yr Ynys Las mewn ardaloedd ffrwythlon sy’n agos at y cap iâ gyda llawer o lynnoedd a gwlypdiroedd. Maen nhw’n galw yng Ngwlad yr Iâ yn y gwanwyn a’r hydref wrth fudo. Wrth i’r tymheredd ostwng yn yr hydref, mae’r adar yn hedfan tu’r de i fwynhau’r gaeafau mwynach sydd gennym ni ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae nifer fawr ohonynt yn treulio’r gaeaf yng ngwlypdiroedd Wexford, sydd gyferbyn â ni ar draws môr Iwerddon, fwy neu lai. Maen nhw hefyd yn hoffi aros ar ynys Islay yn yr Alban. Bydd ein hadar ar Aber Dyfi – gyda rhai ohonynt yn gwisgo coleri sy’n dangos rhif adnabod – weithiau’n crwydro yn y gaeaf. Maent yn croesi’r môr draw i Iwerddon i dreulio rhan o’r gaeaf mewn heidiau sy’n cynnwys miloedd o wyddau.
Y nifer fach o Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las sy’n treulio’r gaeaf ar Aber Dyfi yw’r haid fwyaf deheuol ym Mhrydain. Yn anffodus, mae niferoedd yr haid yn dirywio’n fawr, gydag ond 15 neu 20 o adar yn gwneud y daith yn ystod gaeafau diweddar, o’i gymharu â dros 150 o adar yn yr 1990au. Mae’n debyg bod y dirywiad hwn yn digwydd o ganlyniad i ddiffyg bridio yn yr Ynys Las. Prin iawn y mae pobl wedi gweld adar ifanc yn ddiweddar. Mae’r bridio gwael yn gysylltiedig â thywydd gwael yn ystod yr haf a chystadleuaeth gyda gwyddau Canada ar gyfer yr ardaloedd bridio gorau. Mae’r cysylltiad sydd gan haid Aber Dyfi gyda heidiau mwy o faint yn rhoi gobaith y bydd rhagor o Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn dewis treulio’r gaeafau yma. Mis Tachwedd diwethaf, cyrhaeddodd haid ychwanegol o ddeuddeg aderyn gydag adar ifanc. Yn anffodus, ni wnaethant aros yn hir ac fe’u gwelwyd yn hedfan i’r gorllewin tuag at y môr.
Rwyf wedi cael yr anrhydedd o arsylwi’r haid hon o wyddau ar Aber Dyfi ers pum mlynedd nawr, fel rhan o’m rôl flaenorol fel arolygwr ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac fel rhan o’r tîm ecoleg maes sy’n gweithio ar gyfer y prosiect ECHOES ar hyn o bryd.
Mae’r prosiect ECHOES yn casglu gwybodaeth ar beth y mae’r gwyddau yn ei fwyta ac mae hyn yn cynnwys casglu beth maen nhw’n ei gynhyrchu ar gyfer ei ddadansoddi. Gan fod llawer o wyddau Canada yn bwydo yn yr un man â’r gwyddau Talcen Wen, rydw i wedi bod yn cadw cofnod manwl o ble mae’r adar yn bwydo, a ble maen nhw’n ysgarthu wrth gwrs!
Mae fy niwrnod yn dechrau cyn y wawr wrth i mi gerdded i olygfan, gan obeithio y byddaf yn gweld y gwyddau’n gadael eu clwyd. Mae’r gwyddau’n hoffi clwydo yn rhywle diogel ar yr aber, neu’n agos at y dŵr, a rhwng dau olau cyn y wawr, gellir eu gweld yn hedfan i’w mannau bwydo ar gyfer y dydd. Mae’r gwyddau’n ceisio treulio cyn lleied o amser yn hedfan ag sy’n bosibl ac efallai byddant ond yn hedfan ddwywaith y dydd (dyna pam mae’n rhaid i mi osod y larwm mor gynnar!).
Ar ôl i’r haul fachlud, bydd y gwyddau’n dychwelyd i glwydo am y nos. Gall fod yn eithaf tywyll pan fydd hyn yn digwydd a gellid tybio bod y gwyddau’n edrych ymlaen at fwyta llond eu boliau ar gyfer y noson sydd i ddod. Bydd hi’n haws i’w gweld nhw ar noson dawel oherwydd efallai byddant yn galw. Mae gan eu cân rinwedd gerddorol yn debyg i sŵn chwerthin ac mae’n ychwanegu at synau’r aber ar yr adeg yma o’r dydd, gyda Gylfinirod a Chornicyllod yn symud i ffwrdd hefyd.
Gyda’r gwyddau allan o’r ffordd yn ddiogel, mae’n amser i helpu’r ymchwilwyr eraill chwilio am ysgarthion y gwyddau. Yn ffodus, mae’n gymharol hawdd i wahaniaethu rhwng ysgarthion gwyddau Canada a’r gwyddau Talcen Wen, hyd yn oed yn y tywyllwch. Mae aderyn llai o faint yn cynhyrchu ysgarthion sy’n llai!
Llun gan: Edmund Fellowes.
Prosiect ECHOES
Mae’r prosiect ECHOES wedi’i ariannu gan Raglen INTERREG Iwerddon Cymru. Sefydlwyd y prosiect ym mis Rhagfyr 2019 a chafodd ei lansio’n swyddogol ym mis Gorffennaf 2020. Bydd yn rhedeg hyd at fis Mehefin 2023. Nod y prosiect yw mapio cynefinoedd dwy rywogaeth o adar sy’n gaeafu yn Iwerddon a Chymru: Gylfinirod Ewrasia a Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las. Mae niferoedd yr adar hyn yn dirywio’n ddifrifol ond gellir eu canfod ar hyd arfordiroedd Môr Iwerddon.
Trwy ddysgu rhagor am gynefinoedd yr adar hyn, bydd ECHOES yn darparu ymchwil a fydd yn gallu helpu rheolwyr safle a thirfeddianwyr ar hyd yr arfordir i wneud penderfyniadau ar sut i ddiogelu’r rhywogaethau hyn yn y dyfodol – yn enwedig gan feddwl am lefelau môr yn codi a newid hinsawdd. Mae ECHOES hefyd yn datblygu offer digidol ar gyfer hyn. Bydd yr offer yma’n cynnwys amryw o ddata, gan gynnwys amcanestyniadau newid hinsawdd, er mwyn helpu rhagweld sut fydd cynefinoedd penodol yn newid dros amser.
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan hanfodol o’r prosiect. Drwy gydol y prosiect, bydd ECHOES yn estyn allan at randdeiliaid mewn rhanbarthau arfordirol sydd yn ardal y rhaglen INTERREG. Bydd sawl menter codi ymwybyddiaeth, megis sgyrsiau a gweithdai, yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod. Byddant yn canolbwyntio ar y newid yn yr hinsawdd a sut all hynny effeithio ar gynefinoedd adar arfordirol, ac yn anuniongyrchol, sut allai hyn effeithio ar bobl a chymunedau ar hyd yr arfordir.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ECHOES, ewch i: echoesproj.eu, a thanysgrifiwch i’n cylchlythyr.
Gallwch hefyd gysylltu â’r prosiect ECHOES ar Facebook a Twitter, neu drwy e-bostio: info@echoesproj.eu