Mae PENNAL 2050, Prifysgol Bangor ac Ymchwil Coedwigoedd yn cydweithredu ar astudiaeth i fesur faint o law sy’n cael ei amsugno gan y gorchudd canopi coed ym Choedwigaeth Pennal. Bydd hyn yn caniatáu modelu gwahanol senarios o fesurau lliniaru llifogydd naturiol, cyfundrefnau plannu a rheoli yn gywir ac amrywiadau mewn amodau hinsoddol. Bydd y model hwn, ar ôl ei ddilysu ar gyfer dalgylch Pennal, yn gallu cael ei ehangu ar gyfer mwy o gwmpas gofodol ar draws coedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru ledled Cymru. Bydd yn defnyddio LoRaWAN – Rhwydwaith Ardal Hir-eang – a gynlluniwyd i gysylltu dyfeisiau fel synwyryddion amgylcheddol i’r Rhyngrwyd fel bod data amser real ar gael yn hawdd.