Cymerodd mwy na 100 o bobl ran yng nghamau amrywiol taith gerdded gymunedol gan ganolbwyntio ar natur. Cynhaliwyd y digwyddiad drwy garedigrwydd tirfeddianwyr Partneriaeth Pennal ar Aber Afon Dyfi. Dechreuodd y daith gerdded o Gaeceinach ac roedd yn cynnwys plant yn arsylwi pryfed ac yn gwylio adar gyda chymorth gan yr ecolegydd sydd wedi bod yn cynnalarolygon i lywio prosiect Pennal 2050.