Y Prosiect
Pennal 2050
Menter gymunedol dan arweiniad ffermwyr i ddod â phobl a natur at ei gilydd yn yr hirdymor i:
- Gynyddu bioamrywiaeth drwy wella a chysylltu cynefinoedd
- Mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd
- Annog cydnerthedd gwledig a gweithgarwch economaidd
- Ymgysylltu â phreswylwyr i gymryd camau cadarnhaol i wella eu hamgylchoedd er mwyn eu hiechyd a’u lles eu hunain a lles cenedlaethau’r dyfodol drwy wirfoddoli ac ymuno mewn gweithgareddau cymunedol. Mae ein Ecowarcheidiaid iau yn yr ysgol yn plannu coed, yn dysgu sut y gall data mawr greu mapiau ar gyfer modelu newid a darganfod pa rywogaethau sy’n byw yn ein hardal.
Gallwch weld MAP o rai o’n gweithgareddau yma.
Mae ein prosiect wedi derbyn cyllid drwy’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Llywodraeth Cymru Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Dyma brif elfennau ein prosiect:
Eco-gamau – yn cynnwys plannu gwrychoedd a choed i ddarparu coridorau bywyd gwyllt. Rydym yn asesu ac yn monitro ein cyfalaf adnoddau naturiol – ein hasedau gwyrdd.
Dyfroedd clir – yn cynnwys lleihau erydiad pridd a dŵr i wella ansawdd dŵr.
Slo-Flo – yn cynnwys defnyddio dulliau rheoli adnoddau naturiol i leihau faint o ddŵr sy’n rhedeg i mewn i’r pentref yn ystod digwyddiadau glaw dwys a bygythiad llifogydd.
Rhosydd iach – yn cynnwys rheoli ein hucheldiroedd yn well trwy leihau rhedyn a defnyddio gwartheg yn ogystal â defaid i bori’r bryniau i annog bywyd gwyllt fel yr Hebog Llwydlas.
Ategir y mesurau hyn gan waith modelu cyfrifiadurol uwch i lywio ein gweithgareddau.
Trosglwyddo Gwybodaeth
Cyhoeddiadau
Dyma rai cyhoeddiadau i helpu i lywio prosiect Pennal 2050 a allai fod o ddiddordeb i ffermwyr, partneriaid y prosiect, trigolion ac ymwelwyr.
Newyddion y Prosiect
Cylchlythyr 21: Lansio hwb cymunedol
MAE'R hwb dafarn gymunedol yn cael ei lansio'n swyddogol...
Cylchlythyr 20: Diweddariad y prosiect
DARGANFYDDWCH fwy am weithgareddau a newyddion diweddaraf y prosiect. ...
Cylchlythyr 19: Taith glywedol
DEWCH am dro ar hyd ein taith dreftadaeth glywedol.
Cylchlythyr 18: Sioe Pennal
ORIEL luniau o Sioe Pennal 2022.
Cylchlythyr 17: Llythyr Pennal
MAE ein chwaer grŵp cymunedol, Menter y Glan wedi lansio cynnig siars i achyb bwyty ac adeliad...
Cylchlythyr 16: Gorau yng Nghymru
PENNAL 2050 yw enillydd y categori "Natur Tirwedd a Choedwigaeth" mewn gwobrau cenedlaethol....
Cylchlythyr 15: Panel newydd
BELLACH mae gan drigolion ac ymwelwyr â Phennal rywbeth arbennig i'w weld yn y pentref....
Cylchlythyr 14: Fferm laeth
CAFODD trigain o blant ysgol gyfle i ymweld ymweld â fferm laeth diolch i aelodau Pennal 2050....
Cylchlythyr 13: Synhwyro newid
MAE PROSIECT synhwyro o bell sy'n arwain y byd yn cael ei gynnal yn nalgylch Pennal gyda Pennal...
Cylchlythyr 12: Newyddion prosiect
MAE PROSIECT Pennal 2050 yn rhan o'r gymuned a'i nod yw gwella gwytnwch i wrthsefyll newid yn yr...