Mae gwybod am iechyd nentydd ac afonydd lleol yn bwysig o safbwynt bioamrywiaeth. Mae elfen o’r enw “Dyfroedd Glân” yn rhan o brosiect Pennal 2050, a bu disgyblion ysgol o’r pentref yn helpu ein hecolegwyr i fonitro math a nifer yr infertebratau yn y dŵr. Darllenwch fwy am eu cyfraniad i’r prosiect yn ein cylchlythyr diweddaraf a darganfyddwch hefyd am rai o’r rhywogaethau eraill yr ydym wedi gallu eu cofnodi yn yr ardal hon o ddalgylch Dyfi.